Cobwebs Online Logo
ADREF

English
Ewch i safleoedd Cobwebs Ar-lein
Cais am eich safle eich hun
Golygu eich safle
Lawrlwythiadau Cobwebs
Archwilio'r Wefan
Archwilio'r Categori
Newyddion Diweddaraf!
 
Am y prosiect
Cwestiynau Cyffredin
Ebostiwch ni / Cysylltwch â ni
Gwybodaeth am y prosiect
Pwy sy'n gymwys?
Gwrthodwr
 
Gwefannau eraill
106.3 Bridge FM
Adult Education Bridgend
Advice on Living Together
Advice on the law and your Rights
Art Encyclopedia
Arts & Culture Bridgend
BAVO
Best of Bridgend
Bridgend Citizens' Panel
Bridgend Council
Bridgend Sporting Chance
BT Internet Rangers
Business Eye
Careers Wales Online
Carwyn Jones AM
Charity Commission
Cobwebs ListMail Service
Communities Cymru
Bridgend Community Leisure Services
Community Leisure Services
Community Music Wales
Community Representatives
Countryside Council for Wales
Culture Net
Cynffig School Bridgend
For people who have never held a Mouse!
Funky Dragon
Get Safe Online
Grantfinding Service
Green Directory Bridgend
Heart of the Community
Home and Family Bills
Its My Shout
Kids Clubs Wales
Learn about the Internet
Learn with RISE
Leisure centres Bridgend
Library of UK Information
Madeleine Moon MP
Maesteg Town Hall
Motivating Mates
My School Lunch
News Plan Wales
Oven Wizards
Sanctuary Counselling
SE Wales Energy Agency
Search UK Petrol Prices for free on PetrolPrices.com
Seatrust
Sustain Wales
UK News Online
Wales on the Web
Wales Past
Welsh Karate Union
Whatprice - DIY and Home Improvement Information
Wise Kids
Youth Works
 
 
 

Cwestiynau Cyffredin

English

A allaf gynllunio fy ngwefan fy hun gan ddechrau o’r dechrau?

 

Na. Byddwch yn cael dewis o enghreifftau a byddwn yn gofyn i chi osod cynnwys eich hun a delweddau (neu allwch ddefnyddio rhai o’r bryslun ‘clipart’) a’u rhoi i mewn.

 

A yw’r lle ar y we yn rhad ac am ddim hefyd?

 

Ydi, mae’n dod fel rhan o Becyn Cobwebs Arlein ond dim ond trwy’r wefan y gallwch cael mynediad iddo – ni ellir rhoi lle i unrhyw safle arall yma. Cysylltwch â Cobwebs ar cobwebs@bridgend.gov.uk . os am wybodaeth am le yn rhad ac ddim ar y we a gwefannau eraill nad ydynt yn gwneud elw.

 

Beth os nad oes gennyf e-bost?

 

Mae’n cynorthwyol i gael cyfeiriad e-bost achos pan fydd pobl yn dod o hyd i’ch gwefan yn electronig byddan nhw am gysylltu â chi’n electronig. Gallwch gael cyfrif e-bost ar y we yn rhad ac am ddim gan nifer o wahanol gwmnïau – ewch i www.emailaddresses.com i ddod o hyd i restr lawn ohonynt.

 

Beth os nad oes gennyf gyfrifiadur?

 

Mae yna rwydwaith eang o fudiadau ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy’n darparu’r cyfle i gymunedau ddefnyddio’r We ac E-bost, ac mae pob llyfrgell ym Mhen-y-bont ar Ogwr bellach yn rhoi cyfle i’r cyhoedd ddefnyddio’r Rhyngrwyd. Gallwch ddefnyddio’r cyfrifiaduron hyn sydd ar gael i’r cyhoedd i greu a diweddaru eich gwefan, a gallwch gychwyn cyfrif e-bost yn seiliedig ar y we er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y prosiect. Os am ragor o fanylion anfonwch E-bost at reolwr prosiect y Cobwebs ar cobwebs@bridgend.gov.uk

 

Dydw i ddim yn gwybod sut i ddiweddaru’r dudalen we - Help!

 

Er mwyn diweddaru eich gwefan ewch i dudalen flaen www.cobwebs.uk.net a chliciwch ar "Golygu eich safle" - bydd y system yn gofyn am eich enw defnyddiwr a chyfrinair (os nad ydych wedi gwneud cais i’r prosiect eto bydd yn rhaid i chi wneud hyn yn gyntaf er mwyn cael enw defnyddiwr a chyfrinair) – os wnewch deipio’r rhain i mewn yn gywir bydd cam 1 y broses ddiweddaru yn ymddangos o’ch blaen. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn hyd nes bod y system yn dweud wrthoch "Tudalen We wedi'i Chreu!"

 

Dydy rhai o’r tudalennau ar fy ngwefan ddim yn ymddangos, yn hytrach mae neges gwall yn ymddangos yn dweud "The web page requested cannot be found on this server"

 

Mae yna ddau bosibilrwydd yma. I ddechrau, a fedrwch weld UNRHYW UN o’ch tudalennau ar y we? Os ydych yn gallu ond hefyd fod yna rai nad ydych yn gallu eu gweld, mae’n debygol fod yna nam technegol wedi digwydd. Anfonwch e-bost at weinyddwr y system ar cobwebs@bridgend.gov.uk os mai dyma’r achos. Os na allwch weld unrhyw un o’r tudalennau gwe, yna a ydych chi wedi anfon ffurflen gytundeb y prosiect yn ôl? Os nad ydych, yr unig ffordd y gallwch weld y tudalennau yw trwy fewn gofnodi i’r safle fel pe baech am ddiweddaru’r safle gan ddilyn y camau hyd nes ei fod yn dweud "View Your WebSite" - bydd hyn yn caniatáu i chi weld a yw’r wefan yn gweithio – ni fydd gweddill y Byd yn medru ei weld hyd nes i chi anfon ffurflen gytundeb y prosiect i mewn. Os ydych wedi anfon eich ffurflen, anfonwch e-bost at weinyddwr y system yn dweud wrtho am y broblem, gan nodi eich bod WEDI anfon ffurflen gytundeb y prosiect.

 

Faint yw’r gost?

 

Mae’r system yn rhad ac am ddim i unrhyw fudiad sy’n gymwys.

 

Llenwais y ffurflen gais ac rydw i newydd dderbyn e-bost i ddweud fod y wefan bellach yn fyw. Sut rydw i’n mynd ati i greu tudalen we fy hun?

 

I greu neu ddiweddaru’ch gwefan ewch i dudalen flaen www.cobwebs.uk.net a chliciwch ar "Golygu eich safle" neu "yma os oes gennych safle gyda ni eisoes i'w" - bydd y system yn gofyn am eich enw defnyddiwr a chyfrinair (os nad ydych wedi gwneud cais i’r prosiect eto bydd yn rhaid i chi wneud hyn yn gyntaf er mwyn cael enw defnyddiwr a chyfrinair) – os wnewch deipio’r rhain i mewn yn gywir bydd cam 1 y broses ddiweddaru yn ymddangos o’ch blaen. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn hyd nes bod y system yn dweud wrthoch "Tudalen We wedi'i Chreu"

 

Mae’r ddelwedd sydd gennyf ar y wefan yn edrych yn rhy fawr – sut mae ei wneud yn llai?

 

Mae angen i chi ddefnyddio darn o feddalwedd graffeg sy’n newid maint delweddau. Os nad yw hyn ar gael ar eich cyfrifiadur, cysylltwch â’ch teleganolfan leol neu gymuned gyfrifiadurol (i ddod o hyd i’ch cyfleuster lleol ewch i www.telecentres.com). Os ydych yn hapus â maint eich delwedd, llwythwch y ddelwedd fel y gwnaethoch yn wreiddiol, a dewiswch y maint ar gyfer eich tudalen.

 

Pan fyddai’n teipio fy enw defnyddiwr a chyfrinair i mewn mae’r system yn dweud hyn wrthyf "You have been denied access to this page" – beth ydw i fod i’w wneud nesaf?

 

I ddechrau, mae angen i chi gau’r porwr i lawr (y darn o feddalwedd yr ydych yn ei ddefnyddio i edrych ar y We). Wedi i chi wneud hyn, ewch i dudalen flaen www.cobwebs.uk.net a cheisiwch mewn gofnodi unwaith eto, gan gymryd gofal i deipio’r enw defnyddiwr a chyfrinair cywir i mewn. Cofiwch, mae’n bwysig eich bod yn ofalus pan yn defnyddio llythrennau bach neu fras pan yn teipio’r cyfrinair, er enghraifft, mae 'ci' yn wahanol i 'Ci'. Os ydych yn dal i gael problemau wrth gael mynediad i’ch gwefan anfonwch e-bost at weinyddwr y system ar cobwebs@bridgend.gov.uk yn dweud wrtho beth yw eich cyfrinair ac enw defnyddiwr yr ydych yn ei ddefnyddio i fewn gofnodi.

 

Pwy all ddefnyddio Cobwebs Arlein?

 

Unrhyw grwp gwirfoddol neu gymunedol a leolir ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd â chyfeiriad e-bost.

 

Rwyf newydd ddiweddaru fy ngwefan a phan es i weld os oedd pob peth yn iawn, gwelais fod y newidiadau heb ddigwydd a bod y cynnwys yr un peth ag o’r blaen – beth sy’n mynd o’i le?

 

A ydych chi wedi mynd trwy’r broses ddiweddaru gyfan trwy glicio ‘Nesaf’ hyd nes bod y safle wedi’i ddiweddaru? Os na ewch drwy’r broses gyfan. Ni fydd y system yn medru arbed unrhyw newidiadau, ac yn anffodus bydd yn rhaid i chi eu gwneud eto!

 

Rydw i eisiau newid fy nghyfeiriad e-bost / enw’r mudiad / manylion cyswllt ond ni allaf ddod o hyd i le i wneud hyn

 

Dim ond gweinyddwr y system all newid manylion mudiad a chyswllt. Anfonwch e-bost at y gweinyddwr ar cobwebs@bridgend.gov.uk os ydych eisiau diweddaru’r rhain.

 

Rydw i eisiau rhoi logo’r mudiad ar y wefan – mae gen i gopi wedi’i brintio ond sut rydw i fod i roi hwn ar y wefan?

 

Y cam cyntaf yw i gael copi electronig o’r ddelwedd. Efallai bod y ddelwedd gennych ar gyfrifiadur yn rhywle, os oes angen sganio’r ddelwedd, defnyddiwch sganydd. Gwnewch yn siwr fod y ddelwedd ddim yn edrych yn rhy fawr ar y sgrîn gan fydd hyn yn difetha sut mae’r wefan yn edrych. Yna mae’n rhaid cadw’r ddelwedd fel JPG neu GIF a rhaid iddi fod yn llai na 40kb. Os nad ydych yn siwr iawn sut i wneud hyn, cysylltwch â’ch llyfrgell leol (Printiwch y daflen hon ac ewch â hi gyda chi). Unwaith y bydd gennych gopi electronig o’ch delwedd yn y fformat a maint cywir ebostiwch hi i: cobwebs@bridgend.gov.uk. Unwaith y gewch gadarnhad o Cobwebs byddwch yn gallu llwytho’r ddelwedd yn ystod cam 4 o broses ddiweddaru Cobwebs Arlein - fe fydd yn ymddangos yn y rhestr bryslun a dim ond ei dewis sydd eisiau er mwyn iddi ymddangos ar eich tudalen. Dim ond chi bydd yn gallu defnyddio'r delwedd yn y modd hyn oni bai i chi drefnu gyda Cobwebs ei bod ar gael i grwpiau eraill.

 

Rydw i wedi anghofio fy enw defnyddiwr / cyfrinair – beth ydyw?

 

Anfonwch e-bost at weinyddwr y system ar cobwebs@bridgend.gov.uk gan ddweud beth yw eich problem. Bydd eich cyfrinair – enw defnyddiwr cywir yn cael eu hanfon ar e-bost i’r cyfeiriad e-bost sydd ar y system (manylion cyswllt) mewn dau e-bost ar wahân (rhesymau diogelwch).

 

Rydw i wedi colli ffurflen gytundeb y prosiect a dydw i ddim yn gwybod sut i gael un arall - help!

 

Chliciwch ar prosiect isod. Printiwch y dudalen hon, llenwch y ffurflen a’i hanfon i: Cobwebs, Bridgend Library and Information Service, Coed Parc Library, Park Street, Bridgend. CF31 4BA.

 

Rydw i wedi rhoi delwedd ar fy ngwefan ac rydw i eisiau ei defnyddio ar fwy nag un dudalen – a oes rhaid i mi gadw ei hail lwytho bob tro rydw i am ei defnyddio?

 

Na, mae Cobwebs Arlein yn cofio’r holl ddelweddau hyn yr ydych wedi’u llwytho gan eu cadw yn eich ffowlder chi. Gellir gweld y delweddau hyn ar y rhestr bryslun ‘clipart’ cam 4 – trwy ddewis ac edrych arnynt yma gallwch ddewis i’w rhoi ar unrhyw un o’ch tudalennau. Bydd eich delwedd chi bob amser yn ymddangos ar ben y rhestr. Os oes nam ar rai o’r delweddau ac yr ydych am gael eu gwared o’ch rhestr, anfonwch e-bost at weinyddwr y system ar on cobwebs@bridgend.gov.uk .

 

Sawl tudalen gallaf gael?

 

Ar hyd o bryd nid oes unrhyw gyfyngiad ar faint o dudalennau, er efallai bydd yn rhaid i ni osod cyfyngiad yn ddiweddarach yn ystod y cynllun.

 

Sut ydw i’n creu fy ngwefan?

 

Bydd Cobwebs Arlein yn creu gwefan i chi wedi iddo ofyn cwestiynau penodol i chi. Pan fyddwch yn gwneud cais ar y wefan i ddefnyddio Cobwebs Arlein byddwn yn gofyn i chi deipio enw defnyddiwr i mewn a chyfrinair (dylech bob amser gadw’ch cyfrinair yn gyfrinachol). Wedi i chi wneud cais gallwch fynd i www.cobwebs.uk.net lle byddwch yn gweld dewis arall ar y dudalen flaen sy’n dweud "Golygu eich safle". Cliciwch ar y gair ‘Golygu eich safle’ a bydd blwch yn ymddangos yn gofyn am eich enw defnyddiwr a chyfrinair. Teipiwch rhain i mewn ar y sgrîn a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn er mwyn creu eich gwefan.

 

Sut ydw i’n diweddaru fy ngwefan?

 

Ewch i www.cobwebs.uk.net lle gwelwch ddewis ar y dudalen flaen sy’n dweud "Golygu eich safle". Cliciwch ar y gair ‘Golygu eich safle’ a bydd blwch yn ymddangos yn gofyn am eich enw defnyddiwr a chyfrinair. Teipiwch rhain i mewn a byddwch yn gweld y camau sy’n rhaid i chi eu cymryd i greu eich gwefan. Ar gam 1 bydd colofn lwyd yn ymddangos i lawr ochr chwith y dudalen wedi i chi greu tudalen – gallwch ddewis gwahanol dudalennau trwy glicio ar y botymau priodol er mwyn newid neu ddileu. Yna dilynwch y cyfarwyddiadau sydd ar y sgrîn hyd nes y bydd Cobwebs Arlein yn dweud wrthoch y gallwch gael golwg ar eich gwefan (mae’n holl bwysig eich bod yn dilyn y camau trwodd hyd nes cyrraedd cam 5 neu ni fydd eich diweddariadau yn ymddangos).

 

Sut ydw i’n gwneud cais am wefan yn rhad am ddim ar Cobwebs Arlein?

 

Cysylltwch â’r Rhyngrwyd, a llwythwch y porwr. Teipiwch www.cobwebs.uk.net yn y gwagle i gyfeiriad ar dop y dudalen. Yna bydd gwefan Cobwebs Arlein yn ymddangos ar eich sgrîn a chliciwch ar "Cais am eich safle eich hun". Yna dilynwch y cyfarwyddiadau fydd yn ymddangos ar y sgrîn hyd nes bydd eich cais yn cael ei gwblhau.

 


 Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi defnyddio Open Source software wrth ddatblygu'r safle hwn.
 Caiff Cobwebs Ar Lein ei gynllunio, ysgrifennu a'i gynnal gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
 Mae Cobwebs Ar Lein yn cael ei ariannu'n rhannol gan Y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy brosiect CyMAL Library Development Grant Scheme.