|
| ADREF |
Bod yn gymwys ar gyfer Cobwebs Ar LeinOs ydych yn fudiad nad yw'n gwneud elw sydd wedi'i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gellir creu eich tudalennau gwe trwy ddefnyddio system Cobwebs ar Lein sy'n cael ei reoli gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o'i amrediad o wasanaethau i gynnal datblygiad economaidd a chymdeithasol y sir, neu fel rhan o'i raglenni i hyrwyddo a datblygu ymwybyddiaeth am dechnolegau cyfathrebu a gwybodaeth. Mae'n rhaid darparu cyfeiriad e-bost ar gyfer eich mudiad er mwyn i ni fedru cysylltu â chi ar gyfer bod yn gymwys ar gyfer Cobwebs Ar Lein. Dylai unrhyw fudiad sy'n dymuno cymryd rhan yn y prosiect ond heb fynediad at y dechnoleg angenrheidiol, gysylltu â'u cyfleuster TGCh cymunedol lleol. Ewch i edrych ar Cyfleuster TGCh er mwyn cael mwy o fanylion am eu cyfleuster lleol. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cadw'r hawl i wrthod unrhyw gais os y teimlir na ydynt yn diwallu'r meini prawf neu os nad yw'r mudiad yn gweithredu'n ddiffuant neu'n unol ag ethos y prosiect. English |
|
|